| Cynllun
grantiau dros dro, sy'n ad-dalu, ar ffurf cymorth grant, cyfanswm
y TAW a dalwyd ar adeiladu, adnewyddu a chynnal a chadw cofebion
cymwys. Ar hyn o bryd, mae disgwyl i'r cynllun barhau tan 2011.
Cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys yng Nghyllideb Mawrth 2005,
y gall elusennau a grwpiau ffydd sydd wedi'u heithrio rhag
cofrestru fel elusennau, hawlio'n ôl TAW a dalwyd ar
waith adeiladu, adnewyddu a chynnal a chadw cymwys a wnaed
ar gofebion cyhoeddus ers Mawrth 16 2005.
| Rhaid i cofebion dangos arysrif i canfod pwrpas y cofeb.
Dyla'r testun o'r arysgrif gael ei gynnwys yn cwestiwn
8 o'r ffurflen gais. |
Gellir cyflwyno anfonebau sy'n cynnwys gwaith a wnaed cyn
ac ar ôl Mawrth 16 2005, ond dim ond yr elfen o'r gwaith
a wnaed ar ôl y dyddiad hwn a ad-delir. Rhaid gwneud
y rhaniad hwn yn glir naill ai ar yr anfoneb neu yn y cais.
Nid oes unrhyw derfyn isaf neu uchaf ar y swm y gellir ei
adhawlio. Fodd bynnag, dim ond 10 anfoneb y dylid eu cyflwyno
i bob cais.
Mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno cynigion i'r Comisiwn Ewropeaidd
am godi cyfradd TAW sy'n llai yn barhaol ar adeiladu, adnewyddu
a chynnal a chadw cofebion. Bydd y cynllun yn gweithredu tan
2011, oni bai bod cytundeb ynghynt ar gyfradd lai barhaol.
|