| Y
CYNLLUN GRANTIAU COFEBION
Mae'r cynllun:
- yn gymwys i elusennau a grwpiau crefyddol sydd wedi'u
heithrio rhag cofrestru fel elusennau yn unig;
- yn gymwys i adeiladu, adnewyddu a chynnal a chadw cofebion
yn unig;
- yn gymwys i strwythurau'n unig;
- yn gymwys i gofebion sydd ag arysgrif neu blac sy'n coffáu
person, anifail neu ddigwyddiad yn unig;
- yn gymwys dim ond i gofebion y gall y cyhoedd fynd atynt
am o leiaf 30 awr yr wythnos, hyd yn oed os codir tâl
am fynediad iddi, neu os oes angen cael allwedd oddi wrth
ddeiliad allwedd;
- yn gymwys i gofebion yn y DU a thramor fel ei gilydd,
lle codwyd TAW y DU;
- yn cynnwys gwaith ar neu ar ôl 16 Mawrth 2005;
- yn derbyn ceisiadau a wneir yn ôl-syllol yn unig.
Am eglurhad pellach o'r pwyntiau uchod, trowch at dudalen
2 o'r llyfryn Arweiniad hwn.
Am waith cymwys a wnaed ar neu ar ôl 16 Mawrth 2005,
mae'r cynllun yn dychwelyd swm llawn y TAW a dalwyd.
Am Arweiniad ar waith cymwys, trowch at dudalen 3, neu cysylltwch
â'r Ddesg Gymorth ar 0845 600 6430.
ELUSENNAU / GRWPIAU CREFYDDOL
Mae'r cynllun wedi'i gyfyngu i elusennau a grwpiau crefyddol
sydd wedi'u heithrio rhag cofrestru fel elusennau.
Rhaid rhoi manylion llawn y cofrestriad elusennol lle bo
hynny'n gymwys. Caiff yr holl geisiadau o'r fath eu gwirio
yn erbyn cronfa ddata cofrestriad elusennau fel rhan o'r gweithdrefnau
gwirio. Os na allwn wirio'r manylion a ddarperir, dychwelir
y cais.
Rhaid i grwpiau crefyddol sydd wedi'u heithrio rhag cofrestru
fel elusennau ddarparu manylion cyfeiriad llawn hefyd er eglurhad.
Nid yw'r cynllun hwn yn cynnwys mynegiannau preifat o goffadwriaeth,
fel cerrig beddi neu feddgorau.
STRWYTHURAU
Mae'r cynllun wedi'i gyfyngu i strwythurau. Mae hyn yn cynnwys
cofebion traddodiadol fel croesau carreg, monolithiau a cherfluniau,
yn ogystal â phlaciau ar adeiladau.
Nid fyddai unrhyw gofeb nad oes angen ei hadeiladu (e.e.
llyfr, portread), neu sy'n anniriaethol (e.e. digwyddiad theatraidd
neu gerddorol) wedi'i chynnwys yn y cynllun hwn.
Nid yw strwythurau sydd â dau ddiben yn gymwys o dan
y cynllun hwn (e.e. ni fyddai mainc na maes chwarae coffa
yn cael eu cynnwys. Er ei bod hi'n debyg mai coffa yw eu prif
swyddogaeth, mae gan ill dau ddefnydd arall, yn yr enghraifft
hon fel man eistedd/ chwarae). Mae ffenestri gwydr lliw, er
bod
dau ddibyn iddynt, yn gymwys.
Mae gerddi a choed coffa, nad ydynt yn strwythurau y gellir
eu hadeiladu na'u hadnewyddu, wedi'u heithrio o'r cynllun
hwn hefyd, er bod mân dirlunio a phlannu yr ymgymerwyd
ag ef wrth adeiladu cofeb yn gymwys yn gyffredinol.
TYSTIOLAETH O DDIBEN COFFAOL
Rhaid i'r holl gofebion ddwyn arysgrif neu blac coffadwriaethol.
Nid oes unrhyw gyfyngiad o ran y cynnwys, ar wahân i
ofyniad bod y gofeb yn coffáu person neu bobl, anifail
neu ddigwyddiad.
Heb arysgrif neu blac sy'n cadarnhau bwriad coffadwriaethol,
ni fydd y gofeb yn cymwys o dan y cynllun.
MYNEDIAD CYHOEDDUS
Bydd mwyafrif y cofebion wedi'u lleoli mewn ardaloedd y bydd
gan y cyhoedd fynediad rhydd iddynt. I warantu'r budd mwyaf
i'r cyhoedd, rhaid i'r gofeb fod ar agor i'r cyhoedd am o
leiaf 30 awr yr wythnos. Fodd bynnag, nid oes unrhyw gyfyngiad
o ran mynediad cyhoeddus 'am ddim'. Mae cofebion sy'n codi
tâl mynediad (e.e. y rheini ar safleoedd Treftadaeth)
hefyd yn gymwys i wneud cais, cyhyd â bod holl amodau
eraill y cynllun wedi'u bodloni. Mae cofebion lle byddai'n
rhaid cael allwedd oddi wrth ddeiliad allwedd sy'n hygyrch
o fewn rheswm, hefyd
wedi'u cynnwys.
COFEBION TRAMOR
Caiff rhai cofebion eu hadeiladu yn y DU i'w codi tramor,
fel ar feysydd brwydr y Rhyfeloedd Byd. Mewn achosion lle
mae'r rhain wedi bod yn destun TAW y DU, cyhyd â bod
holl amodau eraill y cynllun wedi'u bodloni, mae'r rhain yn
hollol gymwys i wneud cais o dan y cynllun.
CEISIADAU ÔL-SYLLOL
Ni ellir talu ceisiadau ond lle ceir anfoneb TAW wreiddiol
y Contractiwr. Rhaid i'r anfoneb fod ar gyfer gwaith a gwblhawyd
eisoes, a rhaid iddi fod wedi'i thalu'n llawn cyn ei chyflwyno
o dan y cynllun.
[Brig y Dudalen]
|