|
CEFNDIR
Cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys y Cynllun Grantiau Cofebion
yng Nghyllideb Mawrth 2005. Mae'r cynllun wedi'i anelu at
elusennau, ond mae grwpiau ffydd sydd wedi'u heithrio rhag
cofrestru fel elusennau'n gymwys hefyd. Bydd y cynllun yn
dychwelyd mewn cymorth grant gyfanswm y TAW a godir wrth adeiladu,
adnewyddu a chynnal a chadw cofebion ar neu ar ôl 16
Mawrth 2005.
Mae'r cynllun ad-dalu yn berthnasol i gofebion ar ffurf cerfluniau,
cofadeiladau a strwythurau tebyg.
Mae'r Llywodraeth wedi gwneud cynigion i'r Comisiwn Ewropeaidd
i godi cyfradd TAW lai yn barhaol ar adeiladu, adnewyddu a
chynnal a chadw cofebion. Mesur dros dro yw'r Cynllun Grantiau
Cofebion. Bydd yn gweithredu hyd at 31 Mawrth 2011 oni bai
y ceir cytundeb ynghynt ar gyfradd lai barhaol. Mae'r cynllun
yn cael ei weinyddu gan DCMS ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan.
|